Cynllun Cyfradd Unffurf TAW
Pwy sy’n gallu ymuno
Gallwch ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
- rydych yn disgwyl i’ch trosiant trethadwy TAW fod yn £150,000 neu lai (heb gynnwys TAW) yn ystod y 12 mis nesaf
Trosiant trethadwy TAW yw cyfanswm popeth a werthir nad yw wedi’i eithrio rhag TAW.
Eithriadau
Ni allwch ymuno â’r cynllun os yw’r canlynol yn berthnasol:
- gwnaethoch adael y cynllun yn ystod y 12 mis diwethaf
- gwnaethoch gyflawni trosedd TAW yn ystod y 12 mis diwethaf, er enghraifft osgoi TAW
- gwnaethoch ymuno â grŵp TAW (neu yr oeddech yn gymwys i ymuno â grŵp TAW) yn ystod y 24 mis diwethaf
- gwnaethoch gofrestru ar gyfer TAW fel is-adran busnes yn ystod y 24 mis diwethaf
- mae’ch busnes â chysylltiad agos â busnes arall (yn agor tudalen Saesneg)
- rydych wedi ymuno â chynllun gorswm TAW neu gynllun nwyddau cyfalaf TAW
Ni allwch ddefnyddio’r cynllun gyda’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod. Yn lle hynny, mae gan y Cynllun Cyfradd Unffurf ei ddull ei hun o gyfrifo trosiant, a hwnnw ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).