Cynllun Cyfradd Unffurf TAW
Trosolwg
Fel arfer, swm y TAW y mae busnes yn ei thalu neu’n ei hawlio’n ôl gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) yw’r gwahaniaeth rhwng y TAW y mae’r busnes yn ei chodi ar gwsmeriaid a’r TAW y mae’r busnes yn ei thalu ar ei bryniannau ei hunain.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych yn rhan o’r Cynllun Cyfradd Unffurf:
- rydych yn talu cyfradd sefydlog o TAW i CThEF
- rydych yn cadw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn yr ydych yn ei godi ar gwsmeriaid a’r hyn yr ydych yn ei dalu i CThEF
- ni allwch hawlio TAW yn ôl ar eich pryniannau – oni bai am rai asedion cyfalaf penodol dros £2,000 (yn agor tudalen Saesneg)
Efallai y byddwch yn gallu ymuno â’r cynllun os yw’ch trosiant TAW yn £150,000 neu lai (heb gynnwys TAW).
I ymuno â’r cynllun, mae’n rhaid i chi wneud cais i CThEF.
Gallwch siarad â chyfrifydd neu ymgynghorydd treth os ydych am gael cyngor ynghylch a yw’r Cynllun Cyfradd Unffurf yn addas i chi.