Cynllun Cyfradd Unffurf TAW
Cyfrifwch eich cyfradd unffurf
Fel arfer, mae’r gyfradd unffurf TAW yr ydych yn ei defnyddio yn dibynnu ar eich math o fusnes. Gallwch dalu cyfradd wahanol os mai dim ond swm bach yr ydych yn ei wario ar nwyddau.
Byddwch yn cael gostyngiad o 1% os yw’ch busnes yn ei flwyddyn gyntaf o fod yn fusnes wedi’i gofrestru ar gyfer TAW.
Os ydych yn gwario swm bach ar nwyddau
Byddwch yn cael eich ystyried yn ‘busnes cost gyfyngedig’ os yw eich nwyddau’n costio llai na naill ai:
- 2% o’ch trosiant
- £1,000 y flwyddyn (os yw eich costau dros 2%)
Mae hyn yn golygu eich bod yn talu’r gyfradd uwch, sef 16.5%. Gallwch a chyfrifo pa nwyddau sy’n cyfrif fel costau.
Os nad ydych yn fusnes cost gyfyngedig, dylech ddefnyddio’ch math o fusnes i gyfrifo’ch cyfradd unffurf.
Cyfraddau unffurf ar gyfer mathau o fusnesau
Math o fusnes | Cyfradd unffurf TAW (%) |
---|---|
Cyfrifyddiaeth neu gadw cyfrifon | 14.5 |
Hysbysebu | 11 |
Gwasanaethau amaethyddol | 11 |
Unrhyw weithgaredd arall nad yw wedi’i restru yn unman arall | 12 |
Pensaer, peiriannydd sifil a strwythurol neu syrfëwr | 14.5 |
Lletya neu ofalu am anifeiliaid | 12 |
Gwasanaethau busnes nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall | 12 |
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, cyn 15 Gorffennaf 2020 | 12.5 |
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, o 15 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2021 | 4.5 |
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, o 1 Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022 | 8.5 |
Gwasanaethau arlwyo, gan gynnwys bwytai a siopau tecawê, o 1 Ebrill 2022 | 12.5 |
Ymgynghori ynghylch cyfrifiaduron a TG neu brosesu data | 14.5 |
Gwasanaethau trwsio cyfrifiaduron | 10.5 |
Adloniant neu newyddiaduraeth | 12.5 |
Gwasanaethau asiantaeth eiddo, neu wasanaethau rheoli eiddo | 12 |
Gwasanaethau ffermio neu amaethyddiaeth nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall | 6.5 |
Cynhyrchu ffilm, radio, teledu neu fideo | 13 |
Gwasanaethau ariannol | 13.5 |
Coedwigaeth neu bysgota | 10.5 |
Gwasanaethau adeiladu cyffredinol* | 9.5 |
Gwasanaethau trin gwallt neu driniaethau harddwch eraill | 13 |
Llogi neu rentu nwyddau | 9.5 |
Gwesty neu lety cyn 15 Gorffennaf 2020 | 10.5 |
Gwesty neu lety o 15 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2021 | 0 |
Gwesty neu lety o 1 Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022 | 5.5 |
Gwesty neu lety cyn 1 Ebrill 2022 | 10.5 |
Ymchwilio neu ddiogelwch | 12 |
Gwasanaethau adeiladu – llafur yn unig* | 14.5 |
Gwasanaethau golchdy neu sychlanhau | 12 |
Gwasanaethau cyfreithiwr neu wasanaethau cyfreithiol | 14.5 |
Llyfrgell, archif, amgueddfa neu weithgaredd diwylliannol arall | 9.5 |
Ymgynghori ym maes rheoli | 14 |
Gweithgynhyrchu cynhyrchion metel gwneuthuredig | 10.5 |
Gweithgynhyrchu bwyd | 9 |
Gwasanaethau gweithgynhyrchu nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall | 9.5 |
Gweithgynhyrchu edafedd, tecstilau neu ddillad | 9 |
Sefydliad aelodaeth | 8 |
Mwyngloddio neu chwarelu | 10 |
Pecynnu | 9 |
Ffotograffiaeth | 11 |
Swyddfeydd Post | 5 |
Argraffu | 8.5 |
Cyhoeddi | 11 |
Tafarnau cyn 15 Gorffennaf 2020 | 6.5 |
Tafarnau o 15 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2021 | 1 |
Tafarnau o 1 Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022 | 4 |
Tafarnau o 1 Ebrill 2022 | 6.5 |
Gweithgaredd eiddo tirol nad yw wedi’i restru yn unman arall | 14 |
Trwsio nwyddau personol neu’r nwyddau i’r tŷ | 10 |
Trwsio cerbydau | 8.5 |
Manwerthu bwyd, melysion, tybaco, papurau newydd neu ddillad plant | 4 |
Manwerthu deunydd fferyllol, nwyddau meddygol, colur neu bethau ymolchi | 8 |
Gwasanaethau manwerthu nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall | 7.5 |
Manwerthu cerbydau neu danwydd | 6.5 |
Gwasanaethau ysgrifenyddol | 13 |
Gwaith cymdeithasol | 11 |
Chwaraeon neu hamdden | 8.5 |
Cludo neu storio, gan gynnwys gwasanaethau cludo, llwytho, symud a thacsis | 10 |
Asiantaeth deithio | 10.5 |
Meddyginiaeth filfeddygol | 11 |
Cyfanwerthu nwyddau amaethyddol | 8 |
Cyfanwerthu bwyd | 7.5 |
Gwasanaethau cyfanwerthu nad ydynt wedi’u rhestru yn unman arall | 8.5 |
*Mae ‘gwasanaethau adeiladu – llafur yn unig’ yn golygu gwasanaethau adeiladu lle mae gwerth y deunyddiau a gyflenwir yn llai na 10% o drosiant y gwasanaethau hynny. Os yw’r gwerth yn fwy na’r swm hwnnw, caiff y math o fusnes ei ystyried yn ‘Gwasanaethau adeiladu cyffredino’.
Yr hyn rydych yn ei dalu
Dylech gyfrifo’r dreth rydych yn ei thalu drwy luosi eich cyfradd unffurf TAW â’ch ‘trosiant gan gynnwys TAW’.
Enghraifft
Rydych yn bilio cwsmer am £1,000, gan ychwanegu TAW ar 20% i wneud cyfanswm o £1,200.
Rydych yn ffotograffydd, felly, y gyfradd unffurf TAW ar gyfer eich math chi o fusnes yw 11%.
Bydd eich taliad cyfradd unffurf yn 11% o £1,200, sef £132.
Mae trosiant sy’n cynnwys TAW yn wahanol i drosiant TAW safonol. Yn ogystal ag incwm busnes (megis o werthiannau), mae’n cynnwys y TAW a dalwyd ar yr incwm hwnnw.
Cyfrifo 2 gyfradd unffurf
Dylai’r cyfrifiad cyntaf gwmpasu’r cyfnod o ddiwrnod cyntaf eich cyfnod cyfrifyddu hyd at ddiwrnod olaf y gyfradd unffurf honno. Dylai’r ail gyfrifiad gwmpasu’r cyfnod o ddyddiad y gyfradd unffurf newydd hyd at ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu.
Cael help
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun Cyfradd Unffurf, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.