Sut i ymuno

Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf.

Mae’r ffordd y byddwch yn ymuno â’r cynllun yn dibynnu ar p’un a ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW ai beidio.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW

Dylech gofrestru ar gyfer TAW ac ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf ar yr un pryd. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn agor tudalen Saesneg). Byddwch yn cael gwybod sut i ymuno â’r cynlluniau pan fyddwch yn cofrestru. 

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW

Gallwch wneud cais i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf ar-lein neu drwy’r post.

Os ydych am ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn agor tudalen Saesneg) bydd angen i chi wneud hynny ar wahân.

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwch yn cael cadarnhad eich bod wedi ymuno â’r cynllun:

  • drwy’ch cyfrif TAW ar-lein – os gwnaethoch gais ar-lein 
  • drwy’r post – os gwnaethoch gais gan ddefnyddio ffurflen bapur